Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 8 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:57 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Missen, Prif Ddeisebwr Humphrey, B-eat Cymru Glaze, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mark Drakeford Watkins, Llywodraeth Cymru Jordan, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy yr A483
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a
· Chyngor Sir Powys
yn holi eu barn am y ddeiseb.
2.2P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.3P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, i fyfyrwyr a phobl o dan 18 oed
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r
· Consortia trafnidiaeth
yn holi eu barn am y ddeiseb.
2.4P-04-507 Bil iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW)
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.5P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb.
2.6P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am ei farn am y ddeiseb ac i ofyn iddo egluro'r sefyllfa bresennol ynghylch dynodi'r cyfleuster yn Ganolfan Tenis Genedlaethol Cymru;
· Virgin Active, yn ceisio eglurhad ynghylch a oes ganddynt unrhyw gontractau gyda'r Cyngor neu Lywodraeth Cymru;
· Canolfan Tenis Abertawe, yn gofyn am wybodaeth am eu profiad diweddar o ran materion ariannu;
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-263 Rhestru Parc y Strade
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am eglurhad ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil Treftadaeth arfaethedig ac a fydd yn cynnwys cynigion mewn perthynas â rhestru lleol;
· Cadw, yn gofyn am ragor o wybodaeth am y trafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda'r datblygwr a'r rhesymau pam na ellir rhestru canolfannau chwaraeon; a
· yr awdurdod lleol, mewn perthynas â rhestru lleol.
3.2P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ddiolch iddi am ei hymateb, i ofyn am gael gwybod am ddatblygiadau, ac i ofyn iddi ystyried sefydlu cydweithgor gyda'r adran drafnidiaeth yn Lloegr.
3.3P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl datganiad diweddar y Gweinidog.
3.4P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog.
3.5P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddi ystyried sylwadau pellach y deisebydd.
3.6P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· gau'r ddeiseb, gan fod Gweinidogion wedi diystyru cynlluniau i sefydlu Banc Cenedlaethol i Gymru ar hyn o bryd, ac oherwydd bod adolygiad parhaus o fynediad at gyllid yn cael ei gynnal ar hyn o bryd; a
· anfon pwyntiau pellach y deisebydd ymlaen at Weinidogion ac at yr Athro Jones-Evans.
3.7P-04-402 Gweddïau Cyngor
Nododd y Cadeirydd a Russell George eu bod yn aelodau o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth;
· Geisio cyngor cyfreithiol pellach os oes angen; a
· ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am eu sylwadau ar ddatganiad y Gweinidog.
3.8P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd.
3.9P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach y deisebydd ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
3.10 P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd.
3.11 P-04-484 Allowance amount Addysg i Bawb!
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am ymateb i lythyr y Gweinidog.
3.12 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar am y ddeiseb gan:
· y deisebydd; a
· ColegauCymru.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Gwasanaeth Ymchwil am grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y ddeiseb, a allai hefyd gynnwys unrhyw ymchwil a wnaed gan yr UCU.
3.13 P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.
3.14 P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.
4 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Deisebydd
Atebodd Helen Missen, Susannah Humphrey a Dr Robin Glaze gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
5 P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Atebodd Mark Drakeford AC gwestiynau'r pwyllgor, gyda chefnogaeth Jo Jordan a Dr Sarah Watkins.